Dathlu gwlybdiroedd – lle mae’r tir yn cwrdd â dŵr

Dathlu gwlybdiroedd – lle mae’r tir yn cwrdd â dŵr

Big Pool Wood Nature Reserve © Mark Hughes

Mae Ali Morse, ein Rheolwr Polisi Dŵr yn yr Ymddiriedolaethau Natur, yn edrych ar bwysigrwydd gwlybdiroedd, gan ganolbwyntio ar y manteision a ddaw yn eu sgil i ni, yn ogystal â bywyd gwyllt – atal llifogydd, dal carbon a lles.

Efallai bod Cymru’n wlad 'wlyb', ond mae gwlybdiroedd – gwerddonau sy'n llawn bywyd gwyllt ac sy'n dal carbon – yn brinnach nag ydych yn ei feddwl. Mae gwlybdiroedd wedi'u dileu o’r dirwedd i raddau helaeth, ac mae'r golled yma’n broblem nid yn unig i fyd natur, ond i bobl hefyd.

Mae sawl ffurf i gynefinoedd gwlybdir, o gorsydd mawn yr ucheldir i fignau yn y cymoedd, dolydd gorlifdir a gwelyau cyrs helaeth. Os ydynt yn cael eu bwydo gan law neu ddŵr daear, mae angen cyflenwad dŵr ar y cynefinoedd gwlyb yma i gyd er mwyn creu'r amodau sy'n cadw eu priddoedd, eu llystyfiant a'u rhywogaethau preswyl yn hapus ac yn iach. Yn y DU rydym wedi colli 90% syfrdanol o'n gwlybdiroedd blaenorol, yn aml drwy eu draenio i wneud lle i amaethyddiaeth, datblygiadau, coedwigaeth a defnyddiau tir eraill.  

Mae hyn yn ddrwg i fioamrywiaeth, oherwydd mae tua 40% o fywyd gwyllt y byd yn dibynnu ar wlybdiroedd dŵr croyw. Erbyn hyn, dim ond 3% o'n tirwedd mae gwlybdiroedd y DU yn ei orchuddio, ac eto mae un rhan o ddeg o'n rhywogaethau ni’n parhau i wneud eu cartref ynddynt, ac mae creaduriaid eraill di-rif yn defnyddio gwlybdiroedd i fagu, hela neu chwilio am fwyd. Yn ein glaswelltiroedd gwlyb mae nyth y gornchwiglen, y gylfinir a'r gïach, mae aderyn y bwn yn ffynnu mewn gwelyau cyrs, ac mae ystlumod yn plymio i lawr dros ddyfrffyrdd a gwlybdiroedd, gan fwydo ar yr heidiau o bryfed sy'n codi ohonynt. Gellir dod o hyd i weision y neidr, amffibiaid a llygod pengrwn y dŵr, rhywogaeth boblogaidd ond mewn perygl, ar draws pyllau a chorsydd, ac erbyn hyn, mewn rhai ardaloedd, o ganlyniad i waith yr Ymddiriedolaethau Natur ac eraill, mae afancod yn creu gwlybdiroedd newydd, gan greu cynefin ar gyfer pryfed, mamaliaid a phlanhigion dyfrol.

Mae gwlybdiroedd yn amlwg yn bwysig i lawer o blanhigion ac anifeiliaid gwyllt, ond rydym ni hefyd yn dibynnu arnynt. Maent yn darparu 'gwasanaethau' y mae cymdeithas eu hangen, a hebddynt, rydym yn cael anawsterau. Disgwylir i'r problemau rydym yn eu hwynebu ddwysáu wrth i'r hinsawdd newid ac wrth i aneddiadau ehangu, oni bai ein bod yn cymryd camau brys i wyrdroi'r colledion gwlybdir yma. Dyma rai o'r gwasanaethau hanfodol mae gwlybdiroedd yn eu darparu:

Diogelu rhag llifogydd
Mae gwlybdiroedd naturiol yn diogelu rhag llifogydd drwy arafu a storio llif y dŵr. Mae safleoedd garw, twmpathog fel glaswelltiroedd Cwlm Dyfnaint yn eithriadol dda am ddal dŵr – gydag ymchwil yn dangos, wrth gymharu, bod 11 gwaith yn fwy o ddŵr yn gadael glaswelltiroedd sy’n cael eu rheoli’n ddwys yn ystod stormydd, gan arwain at risg i gymunedau i lawr yr afon.

Mae gwelyau cyrs arfordirol a morfeydd heli’n ein gwarchod ni rhag ymchwydd stormydd, ac mae gorlifdiroedd – pan nad oes adeiladau wedi’u datblygu arnynt – yn dal llif gormodol systemau ein hafonydd.

Y term am ddefnyddio'r amddiffynfeydd naturiol yma yw 'Rheoli Llifogydd yn Naturiol'. Gall gynnwys unrhyw beth o nodweddion ar raddfa fach sy'n dynwared natur (fel 'argaeau sy'n gollwng' neu byllau storio llifogydd, sy'n dal dŵr yn ôl ar lif uchel ac yn galluogi iddo ddraenio drwodd yn ddiweddarach, unwaith y bydd y perygl o lifogydd wedi mynd heibio) i ail-greu cynefinoedd helaeth, fel ar dir amaethyddol isel ar arfordir Essex yn Abbotts Hall. Yno gwnaed bwlch bwriadol yn wal amddiffynnol y môr oedd yn aflwyddiannus, er mwyn creu corstir newydd, sy’n gyforiog bellach o adar mudo, a rhwydwaith o gilfachau sy’n ffurfio meithrinfa werthfawr i ddraenogod y môr, penwaig a physgod eraill.

Storio carbon
Mae gwlybdiroedd yn bwysig i storio carbon – pan fydd planhigion gwlybdir yn marw, yn hytrach na dadelfennu a rhyddhau eu carbon i'r atmosffer, maent yn cael eu claddu yn y gwaddod sy'n ffurfio priddoedd mawn. Mae'r priddoedd yma, sy'n cronni dros filoedd o flynyddoedd, yn dal llawer iawn o garbon a dyma ein storfa garbon fwyaf ar y tir. Os byddwn yn gadael iddynt sychu, byddant yn rhyddhau COac yn hytrach na lliniaru newid yn yr hinsawdd, byddant yn cyfrannu ato. Mae ymchwilwyr wedi cyfrif pe bai’r holl garbon sy’n cael ei ddal mewn mawndiroedd yn fyd-eang yn cael ei ryddhau, byddai’n cynyddu’r dwyseddau CO2 atmosfferig 75%, gyda chanlyniadau dinistriol i’r hinsawdd yn fyd-eang.

Mae ailwlychu mawndiroedd yn atal rhyddhau'r carbon yma sydd dan glo, felly mae'n arf allweddol yn ein brwydr ni yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Hefyd bydd adfer ffeniau a chorsydd yn darparu cynefin hanfodol ar gyfer planhigion sy'n bwyta pryfed, adar rhydio fel pibydd y mawn a’r boda tinwyn, a nifer o rywogaethau o bryfed, a lle nad yw adfer cynefinoedd ar raddfa lawn yn ymarferol, mae profi ffyrdd i fawndiroedd fel y ffeniau gael eu ffermio’n fwy cynaliadwy yn rhan allweddol o’r ateb hefyd. Mae cynefinoedd gwlybdir eraill yn sugno carbon hefyd, er enghraifft, ar forfa heli, mae un astudiaeth yn awgrymu, wrth i haenau newydd o waddod ffurfio, maent yn gallu storio carbon bron i bedair gwaith yn gyflymach na choed!

Lles
Mae gwlybdiroedd yn llesol i’r meddwl, y corff a’r enaid hefyd! Profwyd bod yr amgylchedd naturiol yn bwysig i iechyd corfforol a meddyliol, ac mae’r GIG bellach yn treialu presgripsiynau cymdeithasol ‘gwyrdd’ i helpu cleifion sydd â phroblemau fel iselder, gorbryder, gordewdra a chlefyd y galon. Ond mae ein diddordeb mawr ni mewn dŵr a gwlybdiroedd yn awgrymu y gallai cynefinoedd gwlyb fod yn arbennig o bwysig yn y rhyngweithio yma rhwng natur ac iechyd – mae ymchwil parhaus yn edrych ar sut gallem ddefnyddio gwlybdiroedd i sicrhau canlyniadau iechyd yn gyflymach ac yn fwy effeithiol yn y dyfodol.

Am yr holl resymau hyn a mwy, mae ein cynefinoedd gwlybdir yn rhan bwysig iawn o dirwedd y DU, sy'n hanfodol i fywyd gwyllt ac i bobl. Gyda'i gilydd maent yn rhan o ddyfroedd deinamig a chysylltiedig a all, gydag ychydig o help, barhau i gefnogi amrywiaeth enfawr ac unigryw o fywyd gwyllt.

Mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn gweithio i ddiogelu ac adfer ein gwlybdiroedd sydd wedi'u difrodi fel rhan o'n gweledigaeth i weld 30% o'n tir a'n moroedd yn cael eu rheoli ar gyfer adferiad natur erbyn 2030.