Wrth grwydro drwy goetir tua diwedd y gaeaf neu ddechrau’r gwanwyn, rydych chi’n debygol o glywed pyliau o dapio cyflym, cyson yn atseinio drwy’r coed. Gwaith cnocell y coed ar genhadaeth ydi'r sain stacato yma. Mae unrhyw dwrw’n anfon neges i’r holl gnocellau’r coed eraill sy’n gallu ei glywed – mae’r rhan yma o’r goedwig yn perthyn i mi.
Pendoncwyr
Tra bo rhai adar yn canu i ddenu cymar ac i ddychryn eu cymdogion, mae cnocellau’r coed yn defnyddio dull gwahanol. Maen nhw’n morthwylio eu pig yn erbyn boncyff coeden ar gyflymder anhygoel o uchel – hyd at 40 trawiad yr eiliad i’r gnocell fraith fwyaf. Does dim gwadu bod hynny'n drawiadol!
Mae cryn dipyn o drafod wedi bod ynghylch sut gall cnocell y coed ymdopi â’r straen o guro ei phen yn erbyn arwyneb caled dro ar ôl tro. Am gyfnod hir, y gred oedd bod gan gnocell y coed benglog sbyngaidd sy’n amsugno rhywfaint o’r effaith ac yn gwarchod yr ymennydd – mae pobl wedi copïo’r syniad yma hyd yn oed i greu helmedau diogelwch. Ond roedd astudiaeth a gyhoeddwyd y llynedd yn anghytuno â'r gred gyffredin yma, gan ddangos nad oes unrhyw effaith clustogi. Mae cnocell y coed yn defnyddio ei phen fel morthwyl stiff, nid fel amsugnydd sioc. Yn hytrach, ei maint bychan sy'n amddiffyn ei hymennydd, gan fod anifeiliaid llai yn gallu gwrthsefyll arafiad uwch. Mae cnocell y coed yn gallu ymdopi ag ergydion a fyddai'n rhoi cyfergyd difrifol i ni.