Gwarchodfa Natur Abercorris
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Pryd i ymweld
Amseroedd agor
Ar agor bob amserAmser gorau i ymweld
Trwy gydol y flwyddynAm dan y warchodfa
Dyffryn afon coediog
Mae coed derw, ynn a chyll yn creu canopi o ddail trwchus yn y dyffryn serth yma, gan ddarparu cysgod ar gyfer llawer o adar yn nythu ac infertebrata. Mae Afon Deri’n rhedeg drwy’r safle, gan greu coridor naturiol a thrac sain yn gefndir i’ch ymweliad. Mae’r aer llaith o amgylch yr afon yn creu amgylchedd i fwsoglau a rhedyn ffynnu, gan ddod â’u lliwiau gwyrdd llachar i lawr cymharol dywyll y goedwig. Mae cynefinoedd y warchodfa’n gwrthgyferbynnu’n hyfryd â’r ardal fawr o goetir conwydd sy’n rhedeg drwy’r dyffryn hwn: mae amrywiaeth ehangach o goed a phresenoldeb yr afon yn cynnig cyfleoedd i ystod fwy amrywiol o rywogaethau ffynnu o’u hamgylch.
Cyfarwyddiadau
Mae Abercorris yn gorwedd y naill ochr a’r llall i’r Afon Deri, ychydig oddi ar yr A487: ryw hanner ffordd rhwng Dolgellau a Machynlleth. Rhwng Corris Uchaf a Chorris Isaf, parciwch yn y gilfan (SH 749085) ar y ffordd gefn sy’n rhedeg yn baralel i’r A487.