

Kaya Parsons-Davies

Emperor dragonfly female laying eggs - Ross Hoddinott 2020Vision

nightjar_David Tipling2020Vision

Kaya Parsons-Davies

Kaya Parsons-Davies
Gwarchodfa Natur Cors Bodgynydd
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Pryd i ymweld
Amseroedd agor
Ar agor bob amserAmser gorau i ymweld
Gwanwyn ac yr hafAm dan y warchodfa
Hyfryd o gorsiog
Cafodd yr amrywiaeth eang o gynefinoedd tir gwlyb yn y warchodfa natur anghysbell hon yn ucheldir Coedwig Gwydir ei chreu pan godwyd y lefelau dŵr yn artiffisial yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg i gyflenwi dŵr i’r diwydiant mwyngloddio. Cloddiwyd am blwm a sinc yma am y tro cyntaf yn 1625, ac mae’r tomenni gwastraff a’r tyllau mwynau i’w gweld hyd heddiw. Mae’r argaeau sydd wedi’u hadeiladu ar y llynnoedd wedi creu ardaloedd o ddŵr agored, mign, cors a ffen sy’n frith o fatiau lliwgar a llachar o fwsoglau sffagnwm. Mae llawer o rywogaethau prin wedi cael eu cofnodi yma, gan gynnwys y gwyfyn blaen brown bach, ystlumod pedol lleiaf a phlanhigyn sy’n bwyta pryfed, chwysigenddail lleiaf. Mae cribau sych, creigiog wedi’u gorchuddio gan rug, llus a chriafol yn igam-ogamu ar draws y warchodfa ac sydd lefydd da i weld bywyd gwyllt.
Buchod yr ucheldir
Mae’r cynefinoedd o dir gwlyb asidig heb lawer o faethynnau yng Nghors Bodgynydd yn llawn glaswellt y gweunydd, llafn y bladur, helyg Mair a hesg gylfinfain. Mae staff a grwpiau gwirfoddol YNGC, yn ogystal â’r rhai o Gymdeithas Eryri, yn clirio’r coed conwydd, bedw a helyg sy’n adfywio, tra mae pori ysgafn gan wartheg yr Ucheldir wedi cael ei gyflwyno er mwyn cynnal cymeriad agored a gwlyb y warchodfa. Heb ofal, byddai’r ardal yn ildio yn y diwedd i goetir gwlyb. Hefyd mae’r technegau rheoli hyn yn ffafrio cnwpfwsogl y gors, rhedyn cyfun prin, sydd dan fygythiad oherwydd y patrymau sy’n newid mewn rheoli cynefinoedd a llygredd. Dim ond mewn pedwar lleoliad mae i’w ganfod yng Nghymru.
Oeddech chi’n gwybod?
Mae llwybr beicio mynydd byd-enwog Gwydir Mawr (‘Marin’ gynt) yn mynd heibio gerllaw. Gydag 17 milltir o olygfeydd trawiadol a 450m o ddringo, beth am gyfuno ymarfer dwys gyda stop am ginio yn y warchodfa natur?
Cyfarwyddiadau
Wrth fynd tua’r gorllewin ar yr A5 o Fetws-yCoed, trowch i’r dde ar ffordd un trac yn Nhŷ Hyll (‘The Ugly House’). (Mae posib cael mynediad drwy adael y B5106 i’r de orllewin o Lanrwst hefyd). Dilynwch y chwith amlwg cyntaf (h.y. nid trac y fforest), gydag arwydd am ‘Llyn Geirionydd’. Ar ôl tua 0.6 milltir, yn fuan ar ôl mynd heibio i dyllau mwynau sydd wedi’u ffensio ar y dde, mae lle parcio bychan, hawdd ei fethu, ar y chwith, gyda giât mochyn i mewn i’r warchodfa (SH 766 597).