
Gwarchodfa Natur Aberduna
Mae amrywiaeth hynod y coed, y planhigion, yr adar a’r glöynnod byw yn llenwi’r warchodfa hon gyda lliw drwy gydol y flwyddyn - ac mae cyfle i fwynhau golygfeydd gwych o Fryniau Clwyd!
13 results
Mae amrywiaeth hynod y coed, y planhigion, yr adar a’r glöynnod byw yn llenwi’r warchodfa hon gyda lliw drwy gydol y flwyddyn - ac mae cyfle i fwynhau golygfeydd gwych o Fryniau Clwyd!
Corslwyn ryfeddol a choetir yn llawn blodau gwyllt, cân adar a chyfleusterau sy’n rhoi cyfle i chi fynd yn nes at natur.
Wedi’u hamgylchynu gan amaethyddiaeth a thai trefol, mae’r caeau hyn sy’n llawn blodau gwyllt a’r gwrychoedd aeddfed yn creu hafan i fywyd gwyllt.
Gallwch dreulio oriau’n archwilio’r clytwaith trawiadol yma o gynefinoedd, pob un â’i gymeriad unigryw ei hun a’i gasgliad o fywyd gwyllt.
Yn edrych dros Afon Menai ar un ochr a gyda golygfeydd o Eryri ar yr ochr arall, mae’r warchodfa yma’n werddon wyllt boblogaidd yng nghalon dinas Bangor.
Darn o laswelltir calchfaen a rhos morol ar lethrau gorllewinol y Gogarth Fawr enwog, yn gyforiog o löynnod byw a blodau gwyllt.
Yn gyforiog o fioamrywiaeth, mae’r hen safle diwydiannol yma’n orlawn o infertebrata erbyn hyn.
Cyfle i grwydro drwy flodau gwyllt wrth syllu allan am y môr neu draw am fynyddoedd Eryri.
Cyfle i fod yn dyst i bŵer anhygoel byd natur wrth iddo hawlio’r hen safle diwydiannol yma yn ôl. Beth fydd y bennod nesaf yn hanes Chwarel Minera?
Yn llawn lliw a bywyd yn yr haf, arferai’r dolydd gorlifdir prin yma fod yn olygfa gyffredin ar hyd Afon Dyfrdwy ar un adeg.
13 results