Gwarchodfa Natur Bryn Pydew
Mae’r cyfuniad o goetir, blodau gwyllt a glöynnod byw yn golygu bod y warchodfa yma â’i sylfaen o galchfaen yn fwrlwm o fywyd – sy’n cynnig gwledd yn ystod yr haf!
Speckled wood butterfly - Vicky Nall
Mae’r cyfuniad o goetir, blodau gwyllt a glöynnod byw yn golygu bod y warchodfa yma â’i sylfaen o galchfaen yn fwrlwm o fywyd – sy’n cynnig gwledd yn ystod yr haf!
Llecyn trawiadol i stopio am seibiant a gwylio llanw a thrai’r môr a’r amrywiaeth o fywyd gwyllt sydd yma.
Lle gwych i fod yn agos at fywyd gwyllt, gyda’r cuddfannau adar yn cynnig cyfle i chi dreulio amser gyda thrigolion y warchodfa. Does dim eiliad ddiflas yma!
Perl ddeheuol yng nghynefin rhostir Ynys Gybi lle mae posib dod o hyd i’r cor-rosyn rhuddfannog – blodyn sirol Ynys Môn.
Poced hyfryd o goetir a glaswelltir calchfaen gyda golygfeydd trawiadol draw dros Ddyffryn Llangollen.
Gwarchodfa forol sy’n rhoi cyfle prin i chi brofi’r amrywiaeth lawn o gynefinoedd yn y system ddeinamig o dwyni.
Hafan liwgar sy’n ein cysylltu ni â’n treftadaeth ffermio ac yn darparu gwledd hudolus dros yr haf – peidiwch â’i cholli!
Yn gyforiog o fioamrywiaeth, mae’r hen safle diwydiannol yma’n orlawn o infertebrata erbyn hyn.
Dewch i ddathlu agoriad swyddogol Chwarel Minera, 36ain gwarchodfa natur Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, gyda’r cyflwynydd natur ar y teledu, Mike Dilger, ar 2 Mehefin rhwng 10am a 4pm!
Yn gyforiog o flodau gwyllt yn ystod y gwanwyn a’r haf, ac yn cynnig golygfeydd gaeafol hyfryd o’r arfordir, mae’r ddôl wair draddodiadol yma’n cynnig cipolwg ar orffennol ein cefn gwlad ni.
Wedi’u hamgylchynu gan amaethyddiaeth a thai trefol, mae’r caeau hyn sy’n llawn blodau gwyllt a’r gwrychoedd aeddfed yn creu hafan i fywyd gwyllt.
Mae iechyd a lles y cyhoedd, gwirfoddolwyr a staff yn hollbwysig i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.